35 Hyn yw rhan eneiniad Aaron ac eneiniad ei feibion, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yn y dydd y nesaodd efe hwynt i offeiriadu i'r Arglwydd;
36 Yr hwn a orchmynnodd yr Arglwydd ei roddi iddynt, y dydd yr eneiniodd efe hwynt allan o feibion Israel, trwy ddeddf dragwyddol, trwy eu cenedlaethau.
37 Dyma gyfraith y poethoffrwm, y bwyd‐offrwm, a'r aberth dros bechod, a'r aberth dros gamwedd, a'r cysegriadau, a'r aberth hedd;
38 Yr hon a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai, yn y dydd y gorchmynnodd efe i feibion Israel offrymu eu hoffrymau i'r Arglwydd, yn anialwch Sinai.