9 A phob bwyd‐offrwm a graser mewn ffwrn, a'r hyn oll a wneler mewn padell, neu ar radell, fydd eiddo'r offeiriad a'i hoffrymo.
10 A phob bwyd‐offrwm wedi ei gymysgu trwy olew, neu yn sych, a fydd i holl feibion Aaron, bob un fel ei gilydd.
11 Dyma hefyd gyfraith yr ebyrth hedd a offryma efe i'r Arglwydd.
12 Os yn lle diolch yr offryma efe hyn; offrymed gyda'r aberth diolch deisennau croyw, wedi eu cymysgu trwy olew; ac afrllad croyw, wedi eu hiro ag olew; a pheilliaid wedi ei grasu yn deisennau, wedi eu cymysgu ag olew.
13 Heblaw'r teisennau, offrymed fara lefeinllyd, yn ei offrwm, gyda'i hedd‐aberth o ddiolch.
14 Ac offrymed o hyn un dorth o'r holl offrwm, yn offrwm dyrchafael i'r Arglwydd; a bydded hwnnw eiddo'r offeiriad a daenello waed yr ebyrth hedd.
15 A chig ei hedd‐aberth o ddiolch a fwyteir y dydd yr offrymir ef: na adawer dim ohono hyd y bore.