1 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Cymer Aaron a'i feibion gydag ef, a'r gwisgoedd, ac olew yr eneiniad, a bustach yr aberth dros bechod, a dau hwrdd, a chawell y bara croyw:
3 A chasgl yr holl gynulleidfa ynghyd i ddrws pabell y cyfarfod.
4 A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo: a chasglwyd y gynulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod.
5 A dywedodd Moses wrth y gynulleidfa, Dyma'r peth a orchmynnodd yr Arglwydd ei wneuthur.