24 Ac efe a ddug feibion Aaron: a Moses a roes o'r gwaed ar gwr isaf eu clust ddeau, ac ar fawd eu llaw ddeau, ac ar fawd eu troed deau; a thaenellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch.
25 Ac efe a gymerodd hefyd y gwêr, a'r gloren, a'r holl wêr oedd ar y perfedd, a'r rhwyden oddi ar yr afu, a'r ddwy aren a'u braster, a'r ysgwyddog ddeau.
26 A chymerodd o gawell y bara croyw, yr hwn oedd gerbron yr Arglwydd, un deisen groyw, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen; ac a'u gosododd ar y gwêr, ac ar yr ysgwyddog ddeau:
27 Ac a roddes y cwbl ar ddwylo Aaron, ac ar ddwylo ei feibion, ac a'u cyhwfanodd hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.
28 A Moses a'u cymerth oddi ar eu dwylo hwynt, ac a'u llosgodd ar yr allor, ar yr offrwm poeth. Dyma gysegriadau o arogl peraidd: dyma aberth tanllyd i'r Arglwydd.
29 Cymerodd Moses y barwyden hefyd, ac a'i cyhwfanodd yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: rhan Moses o hwrdd y cysegriad oedd hi; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
30 A chymerodd Moses o olew yr eneiniad, ac o'r gwaed oedd ar yr allor, ac a'i taenellodd ar Aaron, ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd ag ef: ac efe a gysegrodd Aaron, a'i wisgoedd, a'i feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion ynghyd ag ef.