27 Ac a roddes y cwbl ar ddwylo Aaron, ac ar ddwylo ei feibion, ac a'u cyhwfanodd hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.
28 A Moses a'u cymerth oddi ar eu dwylo hwynt, ac a'u llosgodd ar yr allor, ar yr offrwm poeth. Dyma gysegriadau o arogl peraidd: dyma aberth tanllyd i'r Arglwydd.
29 Cymerodd Moses y barwyden hefyd, ac a'i cyhwfanodd yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: rhan Moses o hwrdd y cysegriad oedd hi; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
30 A chymerodd Moses o olew yr eneiniad, ac o'r gwaed oedd ar yr allor, ac a'i taenellodd ar Aaron, ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd ag ef: ac efe a gysegrodd Aaron, a'i wisgoedd, a'i feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion ynghyd ag ef.
31 A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod: ac yno bwytewch ef, a'r bara hefyd sydd yng nghawell y cysegriadau; megis y gorchmynnais, gan ddywedyd, Aaron a'i feibion a'i bwyty ef.
32 A'r gweddill o'r cig, ac o'r bara, a losgwch yn tân.
33 Ac nac ewch dros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cysegriadau: oherwydd saith niwrnod y bydd efe yn eich cysegru chwi.