4 A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo: a chasglwyd y gynulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod.
5 A dywedodd Moses wrth y gynulleidfa, Dyma'r peth a orchmynnodd yr Arglwydd ei wneuthur.
6 A Moses a ddug Aaron a'i feibion, ac a'u golchodd hwynt â dwfr.
7 Ac efe a roddes amdano ef y bais, ac a'i gwregysodd ef â'r gwregys, ac a wisgodd y fantell amdano, ac a roddes yr effod amdano, ac a'i gwregysodd â gwregys cywraint yr effod, ac a'i caeodd amdano ef.
8 Ac efe a osododd y ddwyfronneg arno, ac a roddes yr Urim a'r Thummim yn y ddwyfronneg.
9 Ac efe a osododd y meitr ar ei ben ef; ac a osododd ar y meitr ar ei dalcen ef, y dalaith aur, y goron sanctaidd; fel y gorchmynasai'r Arglwydd i Moses.
10 A Moses a gymerodd olew yr eneiniad, ac a eneiniodd y tabernacl, a'r hyn oll oedd ynddo; ac a'u cysegrodd hwynt.