8 Ac efe a osododd y ddwyfronneg arno, ac a roddes yr Urim a'r Thummim yn y ddwyfronneg.
9 Ac efe a osododd y meitr ar ei ben ef; ac a osododd ar y meitr ar ei dalcen ef, y dalaith aur, y goron sanctaidd; fel y gorchmynasai'r Arglwydd i Moses.
10 A Moses a gymerodd olew yr eneiniad, ac a eneiniodd y tabernacl, a'r hyn oll oedd ynddo; ac a'u cysegrodd hwynt.
11 Ac a daenellodd ohono ar yr allor saith waith, ac a eneiniodd yr allor a'i holl lestri, a'r noe hefyd a'i throed, i'w cysegru.
12 Ac efe a dywalltodd o olew'r eneiniad ar ben Aaron, ac a'i heneiniodd ef, i'w gysegru.
13 A Moses a ddug feibion Aaron, ac a wisgodd beisiau amdanynt, a gwregysodd hwynt â gwregysau, ac a osododd gapiau am eu pennau; fel y gorchmynasai'r Arglwydd wrth Moses.
14 Ac efe a ddug fustach yr aberth dros bechod: ac Aaron a'i feibion a roddasant eu dwylo ar ben bustach yr aberth dros bechod;