19 Dygasant hefyd wêr y bustach a'r hwrdd, y gloren, a'r weren fol, a'r arennau, a'r rhwyden oddi ar yr afu.
20 A gosodasant y gwêr ar y parwydennau; ac efe a losgodd y gwêr ar yr allor.
21 Y parwydennau hefyd, a'r ysgwyddog ddeau, a gyhwfanodd Aaron yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynnodd Moses.
22 A chododd Aaron ei law tuag at y bobl, ac a'u bendithiodd; ac a ddaeth i waered o wneuthur yr aberth dros bechod, a'r poethoffrwm, a'r ebyrth hedd.
23 A Moses ac Aaron a aethant i babell y cyfarfod; a daethant allan, ac a fendithiasant y bobl: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i'r holl bobl.
24 A daeth tân allan oddi gerbron yr Arglwydd, ac a ysodd y poethoffrwm, a'r gwêr, ar yr allor: a gwelodd yr holl bobl; a gwaeddasant, a chwympasant ar eu hwynebau.