4 Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aberthu gerbron yr Arglwydd; a bwyd‐offrwm wedi ei gymysgu trwy olew: oherwydd heddiw yr ymddengys yr Arglwydd i chwi.
5 A dygasant yr hyn a orchmynnodd Moses gerbron pabell y cyfarfod: a'r holl gynulleidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant gerbron yr Arglwydd.
6 A dywedodd Moses, Dyma'r peth a orchmynnodd yr Arglwydd i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr Arglwydd i chwi.
7 Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a'th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymod drostynt; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd.
8 Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn oedd drosto ef ei hun.
9 A meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato: ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac a'i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywalltodd y gwaed arall wrth waelod yr allor.
10 Ond efe a losgodd ar yr allor o'r aberth dros bechod y gwêr a'r arennau, a'r rhwyden oddi ar yr afu; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.