7 Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a'th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymod drostynt; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd.
8 Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn oedd drosto ef ei hun.
9 A meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato: ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac a'i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywalltodd y gwaed arall wrth waelod yr allor.
10 Ond efe a losgodd ar yr allor o'r aberth dros bechod y gwêr a'r arennau, a'r rhwyden oddi ar yr afu; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
11 A'r cig a'r croen a losgodd efe yn tân, o'r tu allan i'r gwersyll.
12 Ac efe a laddodd y poethoffrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a'i taenellodd ar yr allor o amgylch.
13 A dygasant y poethoffrwm ato, gyda'i ddarnau, a'i ben hefyd; ac efe a'u llosgodd hwynt ar yr allor.