6 Ac yn barod gennym ddial ar bob anufudd-dod, pan gyflawner eich ufudd-dod chwi.
7 Ai edrych yr ydych chwi ar bethau yn ôl y golwg? Os ymddiried neb ynddo ei hun, ei fod ef yn eiddo Crist, meddylied hyn drachefn ohono ei hun, megis ag y mae efe yn eiddo Crist, felly ein bod ninnau hefyd yn eiddo Crist.
8 Oblegid pe bostiwn beth ychwaneg hefyd am ein hawdurdod, yr hon a roddodd yr Arglwydd i ni er adeilad, ac nid er eich dinistr chwi, ni'm cywilyddid:
9 Fel na thybier fy mod megis yn eich dychrynu chwi trwy lythyrau.
10 Oblegid y llythyrau yn wir (meddant) sydd drymion a chryfion; eithr presenoldeb y corff sydd wan, a'r ymadrodd yn ddirmygus.
11 Y cyfryw un meddylied hyn, mai y fath ydym ni ar air trwy lythyrau yn absennol, yr un fath hefyd a fyddwn ar weithred yn bresennol.
12 Canys nid ŷm ni yn beiddio ein cystadlu, neu ein cyffelybu ein hunain i rai sydd yn eu canmol eu hunain: eithr hwynt-hwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a'u cyffelybu eu hunain iddynt eu hunain, nid ydynt yn deall.