2 Corinthiaid 3 BWM

1 Ai dechrau yr ydym drachefn ein canmol ein hunain? ai rhaid i ni, megis i rai, wrth lythyrau canmoliaeth atoch chwi, neu rai canmoliaeth oddi wrthych chwi?

2 Ein llythyr ni ydych chwi yn ysgrifenedig yn ein calonnau, yr hwn a ddeellir ac a ddarllenir gan bob dyn:

3 Gan fod yn eglur mai llythyr Crist ydych, wedi ei weini gennym ni, wedi ei ysgrifennu nid ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw; nid mewn llechau cerrig, eithr mewn llechau cnawdol y galon.

4 A chyfryw hyder sydd gennym trwy Grist ar Dduw:

5 Nid oherwydd ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain i feddwl dim megis ohonom ein hunain; eithr ein digonedd ni sydd o Dduw;

6 Yr hwn hefyd a'n gwnaeth ni yn weinidogion cymwys y testament newydd; nid i'r llythyren, ond i'r ysbryd: canys y mae'r llythyren yn lladd, ond yr ysbryd sydd yn bywhau.

7 Ac os bu gweinidogaeth angau, mewn llythrennau wedi eu hargraffu ar gerrig, mewn gogoniant, fel na allai plant yr Israel edrych yn graff ar wyneb Moses, gan ogoniant ei wynepryd, yr hwn ogoniant a ddilewyd;

8 Pa fodd yn hytrach na bydd gweinidogaeth yr Ysbryd mewn gogoniant?

9 Canys os bu gweinidogaeth damnedigaeth yn ogoniant, mwy o lawer y mae gweinidogaeth cyfiawnder yn rhagori mewn gogoniant.

10 Canys hefyd ni ogoneddwyd yr hyn a ogoneddwyd yn y rhan hon, oherwydd y gogoniant tra rhagorol.

11 Oblegid os bu yr hyn a ddileid yn ogoneddus, mwy o lawer y bydd yr hyn sydd yn aros yn ogoneddus.

12 Am hynny gan fod gennym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder mawr:

13 Ac nid megis y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb, fel nad edrychai plant Israel yn graff ar ddiwedd yr hyn a ddileid.

14 Eithr dallwyd eu meddyliau hwynt: canys hyd y dydd heddiw y mae'r un gorchudd, wrth ddarllen yn yr hen destament, yn aros heb ei ddatguddio; yr hwn yng Nghrist a ddileir.

15 Eithr hyd y dydd heddiw, pan ddarllenir Moses, y mae'r gorchudd ar eu calon hwynt.

16 Ond pan ymchwelo at yr Arglwydd, tynnir ymaith y gorchudd.

17 Eithr yr Arglwydd yw'r Ysbryd: a lle mae Ysbryd yr Arglwydd, yno y mae rhyddid.

18 Eithr nyni oll ag wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych, a newidir i'r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13