2 Corinthiaid 2 BWM

1 Eithr mi a fernais hyn ynof fy hunan, na ddelwn drachefn mewn tristwch atoch.

2 Oblegid os myfi a'ch tristâf chwi, pwy yw'r hwn a'm llawenha i, ond yr hwn a dristawyd gennyf fi?

3 Ac mi a ysgrifennais hyn yma atoch, fel, pan ddelwn, na chawn dristwch oddi wrth y rhai y dylwn lawenhau; gan hyderu amdanoch oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll.

4 Canys o orthrymder mawr, a chyfyngder calon, yr ysgrifennais atoch â dagrau lawer; nid fel y'ch tristeid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tuag atoch chwi.

5 Ac os gwnaeth neb dristáu, ni wnaeth efe i mi dristáu, ond o ran; rhag i mi bwyso arnoch chwi oll.

6 Digon i'r cyfryw ddyn y cerydd yma, a ddaeth oddi wrth laweroedd.

7 Yn gymaint ag y dylech, yn y gwrthwyneb, yn hytrach faddau iddo, a'i ddiddanu; rhag llyncu'r cyfryw gan ormod tristwch.

8 Am hynny yr ydwyf yn atolwg i chwi gadarnhau eich cariad tuag ato ef.

9 Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifennais, fel y gwybyddwn brawf ohonoch, a ydych ufudd ym mhob peth.

10 I'r hwn yr ydych yn maddau dim iddo, yr wyf finnau: canys os maddeuais ddim, i'r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais, yng ngolwg Crist;

11 Fel na'n siomer gan Satan: canys nid ydym heb wybod ei ddichellion ef.

12 Eithr gwedi i mi ddyfod i Droas i bregethu efengyl Crist, ac wedi agoryd i mi ddrws gan yr Arglwydd,

13 Ni chefais lonydd yn fy ysbryd, am na chefais Titus fy mrawd: eithr gan ganu'n iach iddynt, mi a euthum ymaith i Facedonia.

14 Ond i Dduw y byddo'r diolch, yr hwn yn wastad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yng Nghrist, ac sydd yn eglurhau arogledd ei wybodaeth trwom ni ym mhob lle.

15 Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig:

16 I'r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwolaeth; ac i'r lleill, yn arogl bywyd i fywyd: a phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?

17 Canys nid ydym ni, megis llawer, yn gwneuthur masnach o air Duw: eithr megis o burdeb, eithr megis o Dduw, yng ngŵydd Duw yr ydym yn llefaru yng Nghrist.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13