2 Corinthiaid 7 BWM

1 Am hynny gan fod gennym yr addewidion hyn, anwylyd, ymlanhawn oddi wrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.

2 Derbyniwch ni. Ni wnaethom gam i neb; ni lygrasom neb; nid ysbeiliasom neb.

3 Nid i'ch condemnio yr wyf yn dywedyd: canys mi a ddywedais o'r blaen eich bod chwi yn ein calonnau ni, i farw ac i fyw gyda chwi.

4 Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych. Y mae gennyf orfoledd mawr o'ch plegid chwi: yr wyf yn llawn o ddiddanwch, yn dra chyflawn o lawenydd yn ein holl orthrymder.

5 Canys wedi ein dyfod ni i Facedonia, ni chafodd ein cnawd ni ddim llonydd; eithr ym mhob peth cystuddiedig fuom: oddi allan yr oedd ymladdau, oddi fewn ofnau.

6 Eithr Duw, yr hwn sydd yn diddanu y rhai cystuddiedig, a'n diddanodd ni wrth ddyfodiad Titus.

7 Ac nid yn unig wrth ei ddyfodiad ef, ond hefyd wrth y diddanwch â'r hwn y diddanwyd ef ynoch chwi, pan fynegodd efe i ni eich awyddfryd chwi, eich galar chwi, eich sêl tuag ataf fi; fel y llawenheais i yn fwy.

8 Canys er i mi eich tristáu chwi mewn llythyr, nid yw edifar gennyf, er bod yn edifar gennyf; canys yr wyf yn gweled dristáu o'r llythyr hwnnw chwi, er nad oedd ond dros amser.

9 Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristáu chwi, ond am eich tristáu i edifeirwch: canys tristáu a wnaethoch yn dduwiol, fel na chaech golled mewn dim oddi wrthym ni.

10 Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch er iachawdwriaeth ni bydd edifeirwch ohoni: eithr tristwch y byd sydd yn gweithio angau.

11 Canys wele hyn yma, eich tristáu chwi yn dduwiol, pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch, ie, pa amddiffyn, ie, pa soriant, ie, pa ofn, ie, pa awyddfryd, ie, pa sêl, ie, pa ddial! Ym mhob peth y dangosasoch eich bod yn bur yn y peth hwn.

12 Oherwydd paham, er ysgrifennu ohonof atoch, nid ysgrifennais o'i blegid ef a wnaethai'r cam, nac oblegid yr hwn a gawsai gam, ond er mwyn bod yn eglur i chwi ein gofal drosoch gerbron Duw.

13 Am hynny nyni a ddiddanwyd yn eich diddanwch chwi: a mwy o lawer y buom lawen am lawenydd Titus, oblegid esmwytháu ar ei ysbryd ef gennych chwi oll.

14 Oblegid os bostiais ddim wrtho ef amdanoch, ni'm cywilyddiwyd: eithr megis y dywedasom wrthych bob dim mewn gwirionedd, felly hefyd gwirionedd oedd ein bost ni, yr hwn a fu wrth Titus.

15 Ac y mae ei ymysgaroedd ef yn helaethach tuag atoch, wrth gofio ohono eich ufudd-dod chwi oll, pa fodd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef.

16 Am hynny llawen wyf, am fod i mi hyder arnoch ym mhob dim.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13