2 Corinthiaid 9 BWM

1 Canys tuag at am y weinidogaeth i'r saint, afraid yw i mi ysgrifennu atoch:

2 Oherwydd mi a adwaen barodrwydd eich meddwl chwi, yr hwn yr ydwyf yn ei fostio wrth y Macedoniaid amdanoch chwi, fod Achaia wedi ymbaratoi er y llynedd; a'r sêl a ddaeth oddi wrthych chwi a anogodd lawer iawn.

3 A mi a ddanfonais y brodyr, fel na byddo ein bost ni amdanoch chwi yn ofer yn y rhan hon; fel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbaratoi:

4 Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyda mi, a'ch cael chwi yn amharod, bod i ni, (ni ddywedaf, chwi,) gael cywilydd yn y fost hyderus yma.

5 Mi a dybiais gan hynny yn angenrheidiol atolygu i'r brodyr, ar iddynt ddyfod o'r blaen atoch, a rhagddarparu eich bendith chwi yr hon a fynegwyd; fel y byddo parod megis bendith, ac nid megis o gybydd-dra.

6 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, Yr hwn sydd yn hau yn brin, a fed hefyd yn brin; a'r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fed hefyd yn helaeth.

7 Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon, felly rhodded; nid yn athrist, neu trwy gymell: canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu.

8 Ac y mae Duw yn abl i beri i bob gras fod yn helaeth tuag atoch chwi; fel y byddoch chwi ym mhob peth, bob amser, a chennych bob digonoldeb yn helaeth i bob gweithred dda:

9 (Megis yr ysgrifennwyd, Efe a wasgarodd; rhoddodd i'r tlodion: ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dragywydd.

10 A'r hwn sydd yn rhoddi had i'r heuwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaed eich had, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder;)

11 Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw.

12 Canys y mae gweinidogaeth y swydd hon, nid yn unig yn cyflawni diffygion y saint, ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi diolch i Dduw;

13 Gan eu bod, trwy brofiad y weinidogaeth hon, yn gogoneddu Duw oherwydd darostyngiad eich cyffes chwi i efengyl Crist, ac oherwydd haelioni eich cyfraniad iddynt hwy, ac i bawb;

14 A thrwy eu gweddi hwythau drosoch chwi, y rhai ydynt yn hiraethu amdanoch chwi, am y rhagorol ras Duw yr hwn sydd ynoch.

15 Ac i Dduw y byddo'r diolch am ei ddawn anhraethol.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13