13 Canys y cyfryw gau apostolion sydd weithwyr twyllodrus, wedi ymrithio yn apostolion i Grist.
14 Ac nid rhyfedd: canys y mae Satan yntau yn ymrithio yn angel goleuni.
15 Gan hynny nid mawr yw, er ymrithio ei weinidogion ef fel gweinidogion cyfiawnder; y rhai y bydd eu diwedd yn ôl eu gweithredoedd.
16 Trachefn meddaf, Na thybied neb fy mod i yn ffôl: os amgen, eto derbyniwch fi fel ffôl, fel y gallwyf finnau hefyd ymffrostio ychydig.
17 Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ôl yr Arglwydd, eithr megis mewn ffolineb, yn hyn o fost hyderus.
18 Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd, minnau a ymffrostiaf hefyd.
19 Canys yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, gan fod eich hunain yn synhwyrol.