3 Ond y mae arnaf ofn, rhag mewn modd yn y byd, megis y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, felly bod eich meddyliau chwi wedi eu llygru oddi wrth y symlrwydd sydd yng Nghrist.
4 Canys yn wir os ydyw'r hwn sydd yn dyfod yn pregethu Iesu arall yr hwn ni phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn ysbryd arall yr hwn nis derbyniasoch, neu efengyl arall yr hon ni dderbyniasoch, teg y cyd-ddygech ag ef.
5 Canys yr ydwyf yn meddwl na bûm i ddim yn ôl i'r apostolion pennaf.
6 Ac os ydwyf hefyd yn anghyfarwydd ar ymadrodd, eto nid wyf felly mewn gwybodaeth; eithr yn eich plith chwi nyni a eglurhawyd yn hollol ym mhob dim.
7 A wneuthum i fai wrth fy ngostwng fy hun, fel y dyrchefid chwi, oblegid pregethu ohonof i chwi efengyl Duw yn rhad?
8 Eglwysi eraill a ysbeiliais, gan gymryd cyflog ganddynt hwy, i'ch gwasanaethu chwi.
9 A phan oeddwn yn bresennol gyda chwi, ac arnaf eisiau, ni ormesais ar neb: canys fy eisiau i a gyflawnodd y brodyr a ddaethant o Facedonia: ac ym mhob dim y'm cedwais fy hun heb bwyso arnoch, ac mi a ymgadwaf.