30 Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf am y pethau sydd yn perthyn i'm gwendid.
31 Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd.
32 Yn Namascus, y llywydd dan Aretus y brenin a wyliodd ddinas y Damasciaid, gan ewyllysio fy nal i:
33 A thrwy ffenestr mewn basged y'm gollyngwyd ar hyd y mur, ac y dihengais o'i ddwylo ef.