1 Ymffrostio yn ddiau nid yw fuddiol i mi: canys myfi a ddeuaf at weledigaethau a datguddiedigaethau'r Arglwydd.
2 Mi a adwaenwn ddyn yng Nghrist er ys rhagor i bedair blynedd ar ddeg, (pa un ai yn y corff, ni wn; ai allan o'r corff, ni wn i: Duw a ŵyr;) y cyfryw un a gipiwyd i fyny hyd y drydedd nef.
3 Ac mi a adwaenwn y cyfryw ddyn, (pa un ai yn y corff, ai allan o'r corff ni wn i: Duw a ŵyr;)
4 Ei gipio ef i fyny i baradwys, ac iddo glywed geiriau anhraethadwy, y rhai nid yw gyfreithlon i ddyn eu hadrodd.
5 Am y cyfryw un yr ymffrostiaf; eithr amdanaf fy hun nid ymffrostiaf, oddieithr yn fy ngwendid.
6 Canys os ewyllysiaf ymffrostio, ni byddaf ffôl; canys mi a ddywedaf y gwir: eithr yr wyf yn arbed, rhag i neb wneuthur cyfrif ohonof fi uwchlaw y mae yn gweled fy mod, neu yn ei glywed gennyf.