17 A wneuthum i elw ohonoch chwi trwy neb o'r rhai a ddanfonais atoch?
18 Mi a ddeisyfais ar Titus, a chydag ef mi a anfonais frawd. A elwodd Titus ddim arnoch? onid yn yr un ysbryd y rhodiasom? onid yn yr un llwybrau?
19 Drachefn, a ydych chwi yn tybied mai ymesgusodi yr ydym wrthych? gerbron Duw yng Nghrist yr ydym yn llefaru; a phob peth, anwylyd, er adeiladaeth i chwi.
20 Canys ofni yr wyf, rhag, pan ddelwyf, na'ch caffwyf yn gyfryw rai ag a fynnwn, a'm cael innau i chwithau yn gyfryw ag nis mynnech: rhag bod cynhennau, cenfigennau, llidiau, ymrysonau, goganau, hustyngau, ymchwyddiadau, anghydfyddiaethau:
21 Rhag pan ddelwyf drachefn, fod i'm Duw fy narostwng yn eich plith, ac i mi ddwyn galar dros lawer, y rhai a bechasant eisoes, ac nid edifarhasant am yr aflendid, a'r godineb, a'r anlladrwydd a wnaethant.