7 Yng ngair gwirionedd, yn nerth Duw, trwy arfau cyfiawnder ar ddeau ac ar aswy,
8 Trwy barch ac amarch, trwy anghlod a chlod: megis twyllwyr, ac er hynny yn eirwir;
9 Megis anadnabyddus, ac er hynny yn adnabyddus; megis yn meirw, ac wele, byw ydym; megis wedi ein ceryddu, a heb ein lladd;
10 Megis wedi ein tristáu, ond yn wastad yn llawen; megis yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer; megis heb ddim gennym, ond eto yn meddiannu pob peth.
11 Ein genau ni a agorwyd wrthych chwi, O Gorinthiaid, ein calon ni a ehangwyd.
12 Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni, eithr cyfyngwyd arnoch yn eich ymysgaroedd eich hunain.
13 Ond am yr un tâl, (yr ydwyf yn dywedyd megis wrth fy mhlant,) ehanger chwithau hefyd.