Actau'r Apostolion 1 BWM

1 Y traethawd cyntaf a wneuthum, O Theoffilus, am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a'u dysgu,

2 Hyd y dydd y derbyniwyd ef i fyny wedi iddo trwy'r Ysbryd Glân roddi gorchmynion i'r apostolion a etholasai:

3 I'r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fyw wedi iddo ddioddef, trwy lawer o arwyddion sicr; gan fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod, a dywedyd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw.

4 Ac wedi ymgynnull gyda hwynt, efe a orchmynnodd iddynt nad ymadawent o Jerwsalem, eithr disgwyl am addewid y Tad, yr hwn, eb efe, a glywsoch gennyf fi.

5 Oblegid Ioan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr; ond chwi a fedyddir â'r Ysbryd Glân, cyn nemor o ddyddiau.

6 Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai'r pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel?

7 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na'r prydiau, y rhai a osododd y Tad yn ei feddiant ei hun.

8 Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Ysbryd Glân wedi y delo efe arnoch; ac a fyddwch dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaear.

9 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt‐hwy yn edrych, efe a ddyrchafwyd i fyny; a chwmwl a'i derbyniodd ef allan o'u golwg hwynt.

10 Ac fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tua'r nef, ac efe yn myned i fyny, wele, dau ŵr a safodd gerllaw iddynt mewn gwisg wen;

11 Y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wŷr o Galilea, paham y sefwch yn edrych tua'r nef? yr Iesu hwn, yr hwn a gymerwyd i fyny oddi wrthych i'r nef, a ddaw felly yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i'r nef.

12 Yna y troesant i Jerwsalem, o'r mynydd a elwir Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Jerwsalem, sef taith diwrnod Saboth.

13 Ac wedi eu dyfod i mewn, hwy a aethant i fyny i oruwchystafell, lle yr oedd Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, Philip, a Thomas, Bartholomew, a Mathew, Iago mab Alffeus, a Simon Selotes, a Jwdas brawd Iago, yn aros.

14 Y rhai hyn oll oedd yn parhau yn gytûn mewn gweddi ac ymbil, gyda'r gwragedd, a Mair mam yr Iesu, a chyda'i frodyr ef.

15 Ac yn y dyddiau hynny Pedr a gyfododd i fyny yng nghanol y disgyblion, ac a ddywedodd, (a nifer yr enwau yn yr un man oedd ynghylch ugain a chant,)

16 Ha wŷr frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni'r ysgrythur yma a ragddywedodd yr Ysbryd Glân trwy enau Dafydd am Jwdas, yr hwn a fu flaenor i'r rhai a ddaliasant yr Iesu:

17 Canys efe a gyfrifwyd gyda ni, ac a gawsai ran o'r weinidogaeth hon.

18 A hwn a bwrcasodd faes â gwobr anwiredd; ac wedi ymgrogi, a dorrodd yn ei ganol, a'i holl ymysgaroedd ef a dywalltwyd allan.

19 A bu hysbys hyn i holl breswylwyr Jerwsalem, hyd oni elwir y maes hwnnw yn eu tafod priodol hwy, Aceldama, hynny yw, Maes y gwaed.

20 Canys ysgrifennwyd yn llyfr y Salmau, Bydded ei drigfan ef yn ddiffeithwch, ac na bydded a drigo ynddi: a chymered arall ei esgobaeth ef.

21 Am hynny y mae'n rhaid, o'r gwŷr a fu yn cydymdaith â ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith ni,

22 Gan ddechrau o fedydd Ioan hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny oddi wrthym ni, bod un o'r rhai hyn gyda ni yn dyst o'i atgyfodiad ef.

23 A hwy a osodasant ddau gerbron, Joseff, yr hwn a enwid Barsabas, ac a gyfenwid Jwstus, a Matheias.

24 A chan weddïo, hwy a ddywedasant, Tydi, Arglwydd, yr hwn a wyddost galonnau pawb, dangos pa un o'r ddau hyn a etholaist,

25 I dderbyn rhan o'r weinidogaeth hon, a'r apostoliaeth, o'r hon y cyfeiliornodd Jwdas, i fyned i'w le ei hun.

26 A hwy a fwriasant eu coelbrennau hwynt: ac ar Matheias y syrthiodd y coelbren; ac efe a gyfrifwyd gyda'r un apostol ar ddeg.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28