Actau'r Apostolion 22 BWM

1 Ha wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch fy amddiffyn wrthych yr awron.

2 (A phan glywsant mai yn Hebraeg yr oedd efe yn llefaru wrthynt, hwy a roesant iddo osteg gwell: ac efe a ddywedodd,)

3 Gŵr wyf fi yn wir o Iddew, yr hwn a aned yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy meithrin yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, ac wedi fy athrawiaethu yn ôl manylaf gyfraith y tadau, yn dwyn sêl i Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw.

4 A mi a erlidiais y ffordd hon hyd angau, gan rwymo a dodi yng ngharchar wŷr a gwragedd hefyd.

5 Megis ag y mae'r archoffeiriad yn dyst i mi, a'r holl henaduriaeth; gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr euthum i Ddamascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd, yn rhwym i Jerwsalem, i'w cosbi.

6 Eithr digwyddodd, a myfi yn myned, ac yn nesáu at Ddamascus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymwth i fawr oleuni o'r nef ddisgleirio o'm hamgylch.

7 A mi a syrthiais ar y ddaear, ac a glywais lais yn dywedyd wrthyf, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid?

8 A minnau a atebais, Pwy wyt ti, O Arglwydd? Yntau a ddywedodd wrthyf, Myfi yw Iesu o Nasareth, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.

9 Hefyd y rhai oedd gyda myfi a welsant y goleuni yn ddiau, ac a ofnasant; ond ni chlywsant hwy lais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf.

10 Ac myfi a ddywedais, Beth a wnaf, O Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyfod, a dos i Ddamascus; ac yno y dywedir i ti bob peth a'r a ordeiniwyd i ti eu gwneuthur.

11 A phryd nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y goleuni hwnnw, a'r rhai oedd gyda mi yn fy nhywys erbyn fy llaw, myfi a ddeuthum i Ddamascus.

12 Ac un Ananeias, gŵr defosiynol yn ôl y ddeddf, ac iddo air da gan yr Iddewon oll a'r oeddynt yn preswylio yno,

13 A ddaeth ataf, ac a safodd gerllaw, ac a ddywedodd wrthyf, Y brawd Saul, cymer dy olwg. Ac mi a edrychais arno yn yr awr honno.

14 Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau ni a'th ragordeiniodd di i wybod ei ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn hwnnw, ac i glywed lleferydd ei enau ef.

15 Canys ti a fyddi dyst iddo wrth bob dyn, o'r pethau a welaist ac a glywaist.

16 Ac yr awron beth yr wyt ti yn ei aros? cyfod, bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar enw yr Arglwydd.

17 A darfu, wedi i mi ddyfod yn fy ôl i Jerwsalem, fel yr oeddwn yn gweddïo yn y deml, i mi syrthio mewn llewyg;

18 A'i weled ef yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos ar frys allan o Jerwsalem: oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi.

19 A minnau a ddywedais, O Arglwydd, hwy a wyddant fy mod i yn carcharu, ac yn baeddu ym mhob synagog, y rhai a gredent ynot ti:

20 A phan dywalltwyd gwaed Steffan dy ferthyr di, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynio i'w ladd ef, ac yn cadw dillad y rhai a'i lladdent ef.

21 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos ymaith: canys mi a'th anfonaf ymhell at y Cenhedloedd.

22 A hwy a'i gwrandawsant ef hyd y gair hwn; a hwy a godasant eu llef, ac a ddywedasant, Ymaith â'r cyfryw un oddi ar y ddaear: canys nid cymwys ei fod ef yn fyw.

23 Ac fel yr oeddynt yn llefain, ac yn bwrw eu dillad, ac yn taflu llwch i'r awyr,

24 Y pen‐capten a orchmynnodd ei ddwyn ef i'r castell, gan beri ei holi ef trwy fflangellau; fel y gallai wybod am ba achos yr oeddynt yn llefain arno felly.

25 Ac fel yr oeddynt yn ei rwymo ef â chareiau, dywedodd Paul wrth y canwriad yr hwn oedd yn sefyll gerllaw, Ai rhydd i chwi fflangellu gŵr o Rufeiniad, ac heb ei gondemnio hefyd?

26 A phan glybu'r canwriad, efe a aeth ac a fynegodd i'r pen‐capten, gan ddywedyd, Edrych beth yr wyt yn ei wneuthur: canys Rhufeiniad yw'r dyn hwn.

27 A'r pen‐capten a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Dywed i mi, ai Rhufeiniad wyt ti? Ac efe a ddywedodd, Ie.

28 A'r pen‐capten a atebodd, Â swm mawr y cefais i'r ddinasfraint hon. Eithr Paul a ddywedodd, A minnau a anwyd yn freiniol.

29 Yn ebrwydd gan hynny yr ymadawodd oddi wrtho y rhai oedd ar fedr ei holi ef: a'r pen‐capten hefyd a ofnodd, pan wybu ei fod ef yn Rhufeiniad, ac oblegid darfod iddo ei rwymo ef.

30 A thrannoeth, ac efe yn ewyllysio gwybod hysbysrwydd am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iddewon, efe a'i gollyngodd ef o'r rhwymau, ac a archodd i'r archoffeiriaid a'u cyngor oll ddyfod yno; ac efe a ddug Paul i waered, ac a'i gosododd ger eu bron hwy.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28