Actau'r Apostolion 26 BWM

1 Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul, Y mae cennad i ti i ddywedyd drosot dy hunan. Yna Paul a estynnodd ei law, ac a'i hamddiffynnodd ei hun.

2 Yr ydwyf yn fy nhybied fy hun yn ddedwydd, O frenin Agripa, gan fy mod yn cael fy amddiffyn fy hun ger dy fron di heddiw, am yr holl bethau yr achwynir arnaf gan yr Iddewon:

3 Yn bendifaddau gan wybod dy fod di yn gydnabyddus â'r holl ddefodau a'r holion sydd ymhlith yr Iddewon: oherwydd paham yr ydwyf yn deisyf arnat fy ngwrando i yn ddioddefgar.

4 Fy muchedd i o'm mebyd, yr hon oedd o'r dechreuad ymhlith fy nghenedl yn Jerwsalem, a ŵyr yr Iddewon oll;

5 Y rhai a'm hadwaenent i o'r dechrau, (os mynnant dystiolaethu,) mai yn ôl y sect fanylaf o'n crefydd ni y bûm i fyw yn Pharisead.

6 Ac yn awr, am obaith yr addewid a wnaed i'n tadau gan Dduw, yr wyf yn sefyll i'm barnu:

7 I'r hon addewid y mae ein deuddeg llwyth ni, heb dor yn gwasanaethu Duw nos a dydd, yn gobeithio dyfod. Am yr hwn obaith yr achwynir arnaf, O frenin Agripa, gan yr Iddewon.

8 Pa beth? ai anghredadwy y bernir gennych chwi, y cyfyd Duw y meirw?

9 Minnau yn wir a dybiais ynof fy hun, fod yn rhaid i mi wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Iesu o Nasareth.

10 Yr hyn hefyd a wneuthum yn Jerwsalem: a llawer o'r saint a gaeais i mewn carcharau, wedi derbyn awdurdod gan yr archoffeiriaid; ac wrth eu difetha, mi a roddais farn yn eu herbyn.

11 Ac ym mhob synagog yn fynych mi a'u cosbais hwy, ac a'u cymhellais i gablu; a chan ynfydu yn fwy yn eu herbyn, mi a'u herlidiais hyd ddinasoedd dieithr hefyd.

12 Ac yn hyn, a myfi yn myned i Ddamascus ag awdurdod a chennad oddi wrth yr archoffeiriaid,

13 Ar hanner dydd, O frenin, ar y ffordd, y gwelais oleuni o'r nef, mwy na disgleirdeb yr haul, yn disgleirio o'm hamgylch, a'r rhai oedd yn ymdaith gyda mi.

14 Ac wedi i ni oll syrthio ar y ddaear, mi a glywais leferydd yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd yn Hebraeg, Saul, Saul, paham yr ydwyt yn fy erlid i? Caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau.

15 Ac mi a ddywedais, Pwy wyt ti, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.

16 Eithr cyfod, a saf ar dy draed: canys i hyn yr ymddangosais i ti, i'th osod di yn weinidog ac yn dyst o'r pethau a welaist, ac o'r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt;

17 Gan dy wared di oddi wrth y bobl, a'r Cenhedloedd, at y rhai yr ydwyf yn dy anfon di yr awron,

18 I agoryd eu llygaid, ac i'w troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw; fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran ymysg y rhai a sancteiddiwyd, trwy'r ffydd sydd ynof fi.

19 Am ba achos, O frenin Agripa, ni bûm anufudd i'r weledigaeth nefol:

20 Eithr mi a bregethais i'r rhai yn Namascus yn gyntaf, ac yn Jerwsalem, a thros holl wlad Jwdea, ac i'r Cenhedloedd; ar iddynt edifarhau, a dychwelyd at Dduw, a gwneuthur gweithredoedd addas i edifeirwch.

21 O achos y pethau hyn yr Iddewon a'm daliasant i yn y deml, ac a geisiasant fy lladd i â'u dwylo eu hun.

22 Am hynny, wedi i mi gael help gan Dduw, yr wyf fi yn aros hyd y dydd hwn, gan dystiolaethu i fychan a mawr, ac heb ddywedyd dim amgen nag a ddywedasai'r proffwydi a Moses y delent i ben;

23 Y dioddefai Crist, ac y byddai efe yn gyntaf o atgyfodiad y meirw, ac y dangosai oleuni i'r bobl, ac i'r Cenhedloedd.

24 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn trosto, Ffestus a ddywedodd â llef uchel, Paul, yr wyt ti yn ynfydu; llawer o ddysg sydd yn dy yrru di yn ynfyd.

25 Ac efe a ddywedodd, Nid wyf fi yn ynfydu, O ardderchocaf Ffestus; eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf fi yn eu hadrodd.

26 Canys y brenin a ŵyr oddi wrth y pethau hyn, wrth yr hwn yr wyf fi yn llefaru yn hy: oherwydd nid wyf yn tybied fod dim o'r pethau hyn yn guddiedig rhagddo; oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn.

27 O frenin Agripa, A wyt ti yn credu i'r proffwydi? Mi a wn dy fod yn credu.

28 Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul, Yr wyt ti o fewn ychydig i'm hennill i fod yn Gristion.

29 A Phaul a ddywedodd, Mi a ddymunwn gan Dduw, o fewn ychydig, ac yn gwbl oll, fod nid tydi yn unig, ond pawb hefyd a'r sydd yn fy ngwrando heddiw, yn gyfryw ag wyf fi, ond y rhwymau hyn.

30 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, cyfododd y brenin, a'r rhaglaw, a Bernice, a'r rhai oedd yn eistedd gyda hwynt:

31 Ac wedi iddynt fyned o'r neilltu, hwy a lefarasant wrth ei gilydd, gan ddywedyd, Nid yw'r dyn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angau, neu rwymau.

32 Yna y dywedodd Agripa wrth Ffestus, Fe allasid gollwng y dyn yma ymaith, oni buasai iddo apelio at Gesar.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28