Actau'r Apostolion 3 BWM

1 Pedr hefyd ac Ioan a aethant i fyny i'r deml ynghyd ar yr awr weddi, sef y nawfed.

2 A rhyw ŵr cloff o groth ei fam a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml, yr hwn a elwid Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a elai i mewn i'r deml.

3 Yr hwn, pan welodd efe Pedr ac Ioan ar fedr myned i mewn i'r deml, a ddeisyfodd gael elusen.

4 A Phedr yn dal sylw arno, gydag Ioan, a ddywedodd, Edrych arnom ni.

5 Ac efe a ddaliodd sylw arnynt, gan obeithio cael rhywbeth ganddynt.

6 Yna y dywedodd Pedr, Arian ac aur nid oes gennyf; eithr yr hyn sydd gennyf, hynny yr wyf yn ei roddi i ti: Yn enw Iesu Grist o Nasareth, cyfod a rhodia.

7 A chan ei gymryd ef erbyn ei ddeheulaw, efe a'i cyfododd ef i fyny; ac yn ebrwydd ei draed ef a'i fferau a gadarnhawyd.

8 A chan neidio i fyny, efe a safodd, ac a rodiodd, ac a aeth gyda hwynt i'r deml, dan rodio, a neidio, a moli Duw.

9 A'r holl bobl a'i gwelodd ef yn rhodio, ac yn moli Duw.

10 Ac yr oeddynt hwy yn ei adnabod, mai hwn oedd yr un a eisteddai am elusen wrth borth Prydferth y deml: a hwy a lanwyd o fraw a synedigaeth am y peth a ddigwyddasai iddo.

11 Ac fel yr oedd y cloff a iachasid yn atal Pedr ac Ioan, yr holl bobl yn frawychus a gydredodd atynt i'r porth a elwir Porth Solomon.

12 A phan welodd Pedr, efe a atebodd i'r bobl, Ha wŷr Israeliaid, beth a wnewch chwi yn rhyfeddu am hyn? neu beth a wnewch chwi yn dal sylw arnom ni, fel pe trwy ein nerth ein hun neu ein duwioldeb y gwnaethem i hwn rodio?

13 Duw Abraham, ac Isaac, a Jacob, Duw ein tadau ni, a ogoneddodd ei Fab Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi, ac a'i gwadasoch gerbron Peilat, pan farnodd efe ef i'w ollwng yn rhydd.

14 Eithr chwi a wadasoch y Sanct a'r Cyfiawn, ac a ddeisyfasoch roddi i chwi ŵr llofruddiog;

15 A Thywysog y bywyd a laddasoch, yr hwn a gododd Duw o feirw; o'r hyn yr ydym ni yn dystion.

16 A'i enw ef, trwy ffydd yn ei enw ef, a nerthodd y dyn yma, a welwch ac a adwaenoch chwi: a'r ffydd yr hon sydd trwyddo ef, a roes iddo ef yr holl iechyd hwn yn eich gŵydd chwi oll.

17 Ac yn awr, frodyr, mi a wn mai trwy anwybod y gwnaethoch, megis y gwnaeth eich pendefigion chwi hefyd.

18 Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enau ei holl broffwydi, y dioddefai Crist, a gyflawnodd efe fel hyn.

19 Edifarhewch gan hynny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau, pan ddelo'r amseroedd i orffwys o olwg yr Arglwydd;

20 Ac yr anfono efe Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd o'r blaen i chwi:

21 Yr hwn sydd raid i'r nef ei dderbyn, hyd amseroedd adferiad pob peth, y rhai a ddywedodd Duw trwy enau ei holl sanctaidd broffwydi erioed.

22 Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau, Yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi Broffwyd o'ch brodyr, megis myfi: arno ef y gwrandewch ym mhob peth a ddyweto wrthych.

23 A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y Proffwyd hwnnw, a lwyr ddifethir o blith y bobl.

24 A'r holl broffwydi hefyd, o Samuel ac o'r rhai wedi, cynifer ag a lefarasant, a ragfynegasant hefyd am y dyddiau hyn.

25 Chwychwi ydych blant y proffwydi, a'r cyfamod yr hwn a wnaeth Duw â'n tadau ni, gan ddywedyd wrth Abraham, Ac yn dy had di y bendithir holl dylwythau y ddaear.

26 Duw, gwedi cyfodi ei Fab Iesu a'i hanfonodd ef i chwi yn gyntaf, gan eich bendithio chwi, trwy droi pob un ohonoch ymaith oddi wrth eich drygioni.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28