1 Yr oedd rhyw ŵr yn Cesarea, a'i enw Cornelius, canwriad o'r fyddin a elwid yr Italaidd;
2 Gŵr defosiynol, ac yn ofni Duw, ynghyd â'i holl dŷ, ac yn gwneuthur llawer o elusennau i'r bobl, ac yn gweddïo Duw yn wastadol.
3 Efe a welodd mewn gweledigaeth yn eglur, ynghylch y nawfed awr o'r dydd, angel Duw yn dyfod i mewn ato, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius.
4 Ac wedi iddo graffu arno, a myned yn ofnus, efe a ddywedodd, Beth sydd, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddïau di a'th elusennau a ddyrchafasant yn goffadwriaeth gerbron Duw.
5 Ac yn awr anfon wŷr i Jopa, a gyr am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr: