11 Ac efe a welai y nef yn agored, a rhyw lestr yn disgyn arno, fel llenlliain fawr, wedi rhwymo ei phedair congl, a'i gollwng i waered hyd y ddaear:
12 Yn yr hon yr oedd pob rhyw bedwarcarnolion y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y nef.
13 A daeth llef ato, Cyfod, Pedr; lladd, a bwyta.
14 A Phedr a ddywedodd, Nid felly, Arglwydd: canys ni fwyteais i erioed ddim cyffredin neu aflan.
15 A'r llef drachefn a ddywedodd wrtho yr ail waith, Y pethau a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin.
16 A hyn a wnaed dair gwaith: a'r llestr a dderbyniwyd drachefn i fyny i'r nef.
17 Ac fel yr oedd Pedr yn amau ynddo'i hun beth oedd y weledigaeth a welsai; wele, y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius, wedi ymofyn am dŷ Simon, oeddynt yn sefyll wrth y porth.