20 Am hynny cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt, heb amau dim: oherwydd myfi a'u hanfonais hwynt.
21 A Phedr, wedi disgyn at y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius ato, a ddywedodd, Wele, myfi yw'r hwn yr ydych chwi yn ei geisio: beth yw yr achos y daethoch o'i herwydd?
22 Hwythau a ddywedasant, Cornelius y canwriad, gŵr cyfiawn, ac yn ofni Duw, ac â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd, i ddanfon amdanat ti i'w dŷ, ac i wrando geiriau gennyt.
23 Am hynny efe a'u galwodd hwynt i mewn, ac a'u lletyodd hwy. A thrannoeth yr aeth Pedr ymaith gyda hwy, a rhai o'r brodyr o Jopa a aeth gydag ef.
24 A thrannoeth yr aethant i mewn i Cesarea. Ac yr oedd Cornelius yn disgwyl amdanynt; ac efe a alwasai ei geraint a'i annwyl gyfeillion ynghyd.
25 Ac fel yr oedd Pedr yn dyfod i mewn, Cornelius a gyfarfu ag ef, ac a syrthiodd wrth ei draed, ac a'i haddolodd ef.
26 Eithr Pedr a'i cyfododd ef i fyny, gan ddywedyd, Cyfod; dyn wyf finnau hefyd.