22 Hwythau a ddywedasant, Cornelius y canwriad, gŵr cyfiawn, ac yn ofni Duw, ac â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd, i ddanfon amdanat ti i'w dŷ, ac i wrando geiriau gennyt.
23 Am hynny efe a'u galwodd hwynt i mewn, ac a'u lletyodd hwy. A thrannoeth yr aeth Pedr ymaith gyda hwy, a rhai o'r brodyr o Jopa a aeth gydag ef.
24 A thrannoeth yr aethant i mewn i Cesarea. Ac yr oedd Cornelius yn disgwyl amdanynt; ac efe a alwasai ei geraint a'i annwyl gyfeillion ynghyd.
25 Ac fel yr oedd Pedr yn dyfod i mewn, Cornelius a gyfarfu ag ef, ac a syrthiodd wrth ei draed, ac a'i haddolodd ef.
26 Eithr Pedr a'i cyfododd ef i fyny, gan ddywedyd, Cyfod; dyn wyf finnau hefyd.
27 A than ymddiddan ag ef, efe a ddaeth i mewn, ac a gafodd lawer wedi ymgynnull ynghyd.
28 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymwasgu neu ddyfod at alltud: eithr Duw a ddangosodd i mi na alwn neb yn gyffredin neu yn aflan.