35 Ond ym mhob cenedl, y neb sydd yn ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymeradwy ganddo ef.
36 Y gair yr hwn a anfonodd Duw i blant Israel, gan bregethu tangnefedd trwy Iesu Grist: (efe yw Arglwydd pawb oll:)
37 Chwychwi a wyddoch y gair a fu yn holl Jwdea, gan ddechrau o Galilea, wedi'r bedydd a bregethodd Ioan:
38 Y modd yr eneiniodd Duw Iesu o Nasareth â'r Ysbryd Glân, ac â nerth; yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni, ac iacháu pawb a'r oedd wedi eu gorthrymu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gydag ef.
39 A ninnau ydym dystion o'r pethau oll a wnaeth efe yng ngwlad yr Iddewon, ac yn Jerwsalem; yr hwn a laddasant, ac a groeshoeliasant ar bren:
40 Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a'i rhoddes ef i'w wneuthur yn amlwg;
41 Nid i'r bobl oll, eithr i'r tystion etholedig o'r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom ac a yfasom gydag ef wedi ei atgyfodi ef o feirw.