39 A ninnau ydym dystion o'r pethau oll a wnaeth efe yng ngwlad yr Iddewon, ac yn Jerwsalem; yr hwn a laddasant, ac a groeshoeliasant ar bren:
40 Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a'i rhoddes ef i'w wneuthur yn amlwg;
41 Nid i'r bobl oll, eithr i'r tystion etholedig o'r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom ac a yfasom gydag ef wedi ei atgyfodi ef o feirw.
42 Ac efe a orchmynnodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu, mai efe yw'r hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw.
43 I hwn y mae'r holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef.
44 A Phedr eto yn llefaru'r geiriau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y gair.
45 A'r rhai o'r enwaediad a oeddynt yn credu, cynifer ag a ddaethent gyda Phedr, a synasant, am dywallt dawn yr Ysbryd Glân ar y Cenhedloedd hefyd.