41 Nid i'r bobl oll, eithr i'r tystion etholedig o'r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom ac a yfasom gydag ef wedi ei atgyfodi ef o feirw.
42 Ac efe a orchmynnodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu, mai efe yw'r hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw.
43 I hwn y mae'r holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef.
44 A Phedr eto yn llefaru'r geiriau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y gair.
45 A'r rhai o'r enwaediad a oeddynt yn credu, cynifer ag a ddaethent gyda Phedr, a synasant, am dywallt dawn yr Ysbryd Glân ar y Cenhedloedd hefyd.
46 Canys yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru â thafodau, ac yn mawrygu Duw. Yna yr atebodd Pedr,
47 A all neb luddias dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Ysbryd Glân fel ninnau?