1 A'r apostolion a'r brodyr oedd yn Jwdea, a glywsant ddarfod i'r Cenhedloedd hefyd dderbyn gair Duw.
2 A phan ddaeth Pedr i fyny i Jerwsalem, y rhai o'r enwaediad a ymrysonasant yn ei erbyn ef,
3 Gan ddywedyd, Ti a aethost i mewn at wŷr dienwaededig, ac a fwyteaist gyda hwynt.
4 Eithr Pedr a ddechreuodd, ac a eglurodd y peth iddynt mewn trefn, gan ddywedyd,
5 Yr oeddwn i yn ninas Jopa yn gweddïo; ac mewn llewyg y gwelais weledigaeth, Rhyw lestr megis llenlliain fawr yn disgyn, wedi ei gollwng o'r nef erbyn ei phedair congl; a hi a ddaeth hyd ataf fi.