12 A'r Ysbryd a archodd i mi fyned gyda hwynt, heb amau dim. A'r chwe brodyr hyn a ddaethant gyda mi; a nyni a ddaethom i mewn i dŷ y gŵr.
13 Ac efe a fynegodd i ni pa fodd y gwelsai efe angel yn ei dŷ, yn sefyll ac yn dywedyd wrtho, Anfon wŷr i Jopa, a gyr am Simon, a gyfenwir Pedr:
14 Yr hwn a lefara eiriau wrthyt, trwy y rhai y'th iacheir di a'th holl dŷ.
15 Ac a myfi yn dechrau llefaru, syrthiodd yr Ysbryd Glân arnynt, megis arnom ninnau yn y dechreuad.
16 Yna y cofiais air yr Arglwydd, y modd y dywedasai efe, Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr; eithr chwi a fedyddir â'r Ysbryd Glân.
17 Os rhoddes Duw gan hynny iddynt hwy gyffelyb rodd ag i ninnau, y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i, i allu lluddias Duw?
18 A phan glywsant y pethau hyn, distawu a wnaethant, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Fe roddes Duw, gan hynny i'r Cenhedloedd hefyd edifeirwch i fywyd.