17 Os rhoddes Duw gan hynny iddynt hwy gyffelyb rodd ag i ninnau, y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i, i allu lluddias Duw?
18 A phan glywsant y pethau hyn, distawu a wnaethant, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Fe roddes Duw, gan hynny i'r Cenhedloedd hefyd edifeirwch i fywyd.
19 A'r rhai a wasgarasid oherwydd y blinder a godasai ynghylch Steffan, a dramwyasant hyd yn Phenice, a Cyprus, ac Antiochia, heb lefaru'r gair wrth neb ond wrth yr Iddewon yn unig.
20 A rhai ohonynt oedd wŷr o Cyprus ac o Cyrene, y rhai wedi dyfod i Antiochia, a lefarasant wrth y Groegiaid, gan bregethu yr Arglwydd Iesu.
21 A llaw yr Arglwydd oedd gyda hwynt: a nifer mawr a gredodd, ac a drodd at yr Arglwydd.
22 A'r gair a ddaeth i glustiau yr eglwys oedd yn Jerwsalem am y pethau hyn: a hwy a anfonasant Barnabas i fyned hyd Antiochia.
23 Yr hwn pan ddaeth, a gweled gras Duw, a fu lawen ganddo, ac a gynghorodd bawb oll, trwy lwyrfryd calon, i lynu wrth yr Arglwydd.