21 A llaw yr Arglwydd oedd gyda hwynt: a nifer mawr a gredodd, ac a drodd at yr Arglwydd.
22 A'r gair a ddaeth i glustiau yr eglwys oedd yn Jerwsalem am y pethau hyn: a hwy a anfonasant Barnabas i fyned hyd Antiochia.
23 Yr hwn pan ddaeth, a gweled gras Duw, a fu lawen ganddo, ac a gynghorodd bawb oll, trwy lwyrfryd calon, i lynu wrth yr Arglwydd.
24 Oblegid yr oedd efe yn ŵr da, ac yn llawn o'r Ysbryd Glân, ac o ffydd: a llawer o bobl a chwanegwyd i'r Arglwydd.
25 Yna yr aeth Barnabas i Darsus, i geisio Saul. Ac wedi iddo ei gael, efe a'i dug i Antiochia.
26 A bu iddynt flwyddyn gyfan ymgynnull yn yr eglwys, a dysgu pobl lawer; a bod galw y disgyblion yn Gristionogion yn gyntaf yn Antiochia.
27 Ac yn y dyddiau hynny daeth proffwydi o Jerwsalem i waered i Antiochia.