25 Yna yr aeth Barnabas i Darsus, i geisio Saul. Ac wedi iddo ei gael, efe a'i dug i Antiochia.
26 A bu iddynt flwyddyn gyfan ymgynnull yn yr eglwys, a dysgu pobl lawer; a bod galw y disgyblion yn Gristionogion yn gyntaf yn Antiochia.
27 Ac yn y dyddiau hynny daeth proffwydi o Jerwsalem i waered i Antiochia.
28 Ac un ohonynt, a'i enw Agabus, a gyfododd, ac a arwyddocaodd trwy yr Ysbryd, y byddai newyn mawr dros yr holl fyd: yr hwn hefyd a fu dan Claudius Cesar.
29 Yna y disgyblion, bob un yn ôl ei allu, a fwriadasant anfon cymorth i'r brodyr oedd yn preswylio yn Jwdea:
30 Yr hyn beth hefyd a wnaethant, gan ddanfon at yr henuriaid trwy law Barnabas a Saul.