6 Ar yr hon pan edrychais, yr ystyriais, ac mi a welais bedwarcarnolion y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y nef.
7 Ac mi a glywais lef yn dywedyd wrthyf, Cyfod, Pedr; lladd, a bwyta.
8 Ac mi a ddywedais, Nid felly, Arglwydd: canys dim cyffredin neu aflan nid aeth un amser i'm genau.
9 Eithr y llais a'm hatebodd i eilwaith o'r nef, Y pethau a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin.
10 A hyn a wnaed dair gwaith: a'r holl bethau a dynnwyd i fyny i'r nef drachefn.
11 Ac wele, yn y man yr oedd tri wŷr yn sefyll wrth y tŷ yr oeddwn ynddo, wedi eu hanfon o Cesarea ataf fi.
12 A'r Ysbryd a archodd i mi fyned gyda hwynt, heb amau dim. A'r chwe brodyr hyn a ddaethant gyda mi; a nyni a ddaethom i mewn i dŷ y gŵr.