1 Ac ynghylch y pryd hwnnw yr estynnodd Herod frenin ei ddwylo i ddrygu rhai o'r eglwys.
2 Ac efe a laddodd Iago brawd Ioan â'r cleddyf.
3 A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hynny, efe a chwanegodd ddala Pedr hefyd. (A dyddiau'r bara croyw ydoedd hi.)
4 Yr hwn, wedi ei ddal, a roddes efe yng ngharchar, ac a'i traddododd at bedwar pedwariaid o filwyr i'w gadw; gan ewyllysio, ar ôl y Pasg, ei ddwyn ef allan at y bobl.
5 Felly Pedr a gadwyd yn y carchar: eithr gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef.
6 A phan oedd Herod â'i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a'r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar.