13 Ac fel yr oedd Pedr yn curo drws y porth, morwyn a ddaeth i ymwrando, a'i henw Rhode.
14 A phan adnabu hi lais Pedr, nid agorodd hi y porth gan lawenydd; eithr hi a redodd i mewn, ac a fynegodd fod Pedr yn sefyll o flaen y porth.
15 Hwythau a ddywedasant wrthi, Yr wyt ti'n ynfydu. Hithau a daerodd mai felly yr oedd. Eithr hwy a ddywedasant, Ei angel ef ydyw.
16 A Phedr a barhaodd yn curo: ac wedi iddynt agori, hwy a'i gwelsant ef, ac a synasant.
17 Ac efe a amneidiodd arnynt â llaw i dewi, ac a adroddodd iddynt pa wedd y dygasai'r Arglwydd ef allan o'r carchar: ac efe a ddywedodd, Mynegwch y pethau hyn i Iago, ac i'r brodyr. Ac efe a ymadawodd, ac a aeth i le arall.
18 Ac wedi ei myned hi yn ddydd, yr oedd trallod nid bychan ymhlith y milwyr, pa beth a ddaethai o Pedr.
19 Eithr Herod, pan ei ceisiodd ef, ac heb ei gael, a holodd y ceidwaid, ac a orchmynnodd eu cymryd hwy ymaith. Yntau a aeth i waered o Jwdea i Cesarea, ac a arhosodd yno.