19 Eithr Herod, pan ei ceisiodd ef, ac heb ei gael, a holodd y ceidwaid, ac a orchmynnodd eu cymryd hwy ymaith. Yntau a aeth i waered o Jwdea i Cesarea, ac a arhosodd yno.
20 Eithr Herod oedd yn llidiog iawn yn erbyn gwŷr Tyrus a Sidon: a hwy a ddaethant yn gytûn ato; ac wedi ennill Blastus, yr hwn oedd ystafellydd y brenin, hwy a ddeisyfasant dangnefedd; am fod eu gwlad hwynt yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin.
21 Ac ar ddydd nodedig, Herod, gwedi gwisgo dillad brenhinol, a eisteddodd ar orseddfainc, ac a areithiodd wrthynt.
22 A'r bobl a roes floedd, Lleferydd Duw, ac nid dyn ydyw.
23 Ac allan o law y trawodd angel yr Arglwydd ef, am na roesai'r gogoniant i Dduw: a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd.
24 A gair Duw a gynyddodd ac a amlhaodd.
25 A Barnabas a Saul, wedi cyflawni eu gweinidogaeth, a ddychwelasant o Jerwsalem, gan gymryd gyda hwynt Ioan hefyd, yr hwn a gyfenwid Marc.