4 Yr hwn, wedi ei ddal, a roddes efe yng ngharchar, ac a'i traddododd at bedwar pedwariaid o filwyr i'w gadw; gan ewyllysio, ar ôl y Pasg, ei ddwyn ef allan at y bobl.
5 Felly Pedr a gadwyd yn y carchar: eithr gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef.
6 A phan oedd Herod â'i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a'r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar.
7 Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw, a goleuni a ddisgleiriodd yn y carchar: ac efe a drawodd ystlys Pedr, ac a'i cyfododd ef, gan ddywedyd, Cyfod yn fuan. A'i gadwyni ef a syrthiasant oddi wrth ei ddwylo.
8 A dywedodd yr angel wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau. Ac felly y gwnaeth efe. Yna y dywedodd, Bwrw dy wisg amdanat, a chanlyn fi.
9 Ac efe a aeth allan, ac a'i canlynodd ef: ac ni wybu mai gwir oedd y peth a wnaethid gan yr angel; eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd.
10 Ac wedi myned ohonynt heblaw y gyntaf a'r ail wyliadwriaeth, hwy a ddaethant i'r porth haearn yr hwn sydd yn arwain i'r ddinas, yr hwn a ymagorodd iddynt o'i waith ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a aethant ar hyd un heol; ac yn ebrwydd yr angel a aeth ymaith oddi wrtho.