21 Ac ar ôl hynny y dymunasant gael brenin: ac fe a roddes Duw iddynt Saul mab Cis, gŵr o lwyth Benjamin, ddeugain mlynedd.
22 Ac wedi ei ddiswyddo ef, y cyfododd efe Dafydd yn frenin iddynt; am yr hwn y tystiolaethodd, ac y dywedodd, Cefais Dafydd mab Jesse, gŵr yn ôl fy nghalon, yr hwn a gyflawna fy holl ewyllys.
23 O had hwn, Duw, yn ôl ei addewid, a gyfododd i Israel yr Iachawdwr Iesu:
24 Gwedi i Ioan ragbregethu o flaen ei ddyfodiad ef i mewn, fedydd edifeirwch i holl bobl Israel.
25 Ac fel yr oedd Ioan yn cyflawni ei redfa, efe a ddywedodd, Pwy yr ydych chwi yn tybied fy mod i? Nid myfi yw efe: eithr wele, y mae un yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn nid wyf yn deilwng i ddatod esgidiau ei draed.
26 Ha wŷr frodyr, plant o genedl Abraham, a'r rhai yn eich plith sydd yn ofni Duw, i chwi y danfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon.
27 Canys y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem, a'u tywysogion, heb adnabod hwn, a lleferydd y proffwydi y rhai a ddarllenid bob Saboth, gan ei farnu ef, a'u cyflawnasant.