20 Ac fel yr oedd y disgyblion yn sefyll o'i amgylch, efe a gyfododd, ac a aeth i'r ddinas: a thrannoeth efe a aeth allan, efe a Barnabas, i Derbe.
21 Ac wedi iddynt bregethu'r efengyl i'r ddinas honno, ac ennill llawer o ddisgyblion, hwy a ddychwelasant i Lystra, ac Iconium, ac Antiochia,
22 Gan gadarnhau eneidiau'r disgyblion, a'u cynghori i aros yn y ffydd, ac mai trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw.
23 Ac wedi ordeinio iddynt henuriaid ym mhob eglwys, a gweddïo gydag ymprydiau, hwy a'u gorchmynasant hwynt i'r Arglwydd, yr hwn y credasent ynddo.
24 Ac wedi iddynt dramwy trwy Pisidia, hwy a ddaethant i Pamffylia.
25 Ac wedi pregethu'r gair yn Perga, hwy a ddaethant i waered i Attalia:
26 Ac oddi yno a fordwyasant i Antiochia, o'r lle yr oeddynt wedi eu gorchymyn i ras Duw i'r gorchwyl a gyflawnasant.