22 Gan gadarnhau eneidiau'r disgyblion, a'u cynghori i aros yn y ffydd, ac mai trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw.
23 Ac wedi ordeinio iddynt henuriaid ym mhob eglwys, a gweddïo gydag ymprydiau, hwy a'u gorchmynasant hwynt i'r Arglwydd, yr hwn y credasent ynddo.
24 Ac wedi iddynt dramwy trwy Pisidia, hwy a ddaethant i Pamffylia.
25 Ac wedi pregethu'r gair yn Perga, hwy a ddaethant i waered i Attalia:
26 Ac oddi yno a fordwyasant i Antiochia, o'r lle yr oeddynt wedi eu gorchymyn i ras Duw i'r gorchwyl a gyflawnasant.
27 Ac wedi iddynt ddyfod, a chynnull yr eglwys ynghyd, adrodd a wnaethant faint o bethau a wnaethai Duw gyda hwy, ac iddo ef agoryd i'r Cenhedloedd ddrws y ffydd.
28 Ac yno yr arosasant hwy dros hir o amser gyda'r disgyblion.