15 Ac â hyn y cytuna geiriau'r proffwydi; megis y mae yn ysgrifenedig,
16 Ar ôl hyn y dychwelaf, ac yr adeiladaf drachefn dabernacl Dafydd, yr hwn sydd wedi syrthio; a'i fylchau ef a adeiladaf drachefn, ac a'i cyfodaf eilchwyl:
17 Fel y byddo i hyn a weddiller o ddynion geisio'r Arglwydd, ac i'r holl Genhedloedd, y rhai y gelwir fy enw i arnynt, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn.
18 Hysbys i Dduw yw ei weithredoedd oll erioed.
19 Oherwydd paham fy marn i yw, na flinom y rhai o'r Cenhedloedd a droesant at Dduw:
20 Eithr ysgrifennu ohonom ni atynt, ar ymgadw ohonynt oddi wrth halogrwydd delwau, a godineb, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth waed.
21 Canys y mae i Moses ym mhob dinas, er yr hen amseroedd, rai a'i pregethant ef, gan fod yn ei ddarllen yn y synagogau bob Saboth.