21 Canys y mae i Moses ym mhob dinas, er yr hen amseroedd, rai a'i pregethant ef, gan fod yn ei ddarllen yn y synagogau bob Saboth.
22 Yna y gwelwyd yn dda gan yr apostolion a'r henuriaid, ynghyd â'r holl eglwys, anfon gwŷr etholedig ohonynt eu hunain, i Antiochia, gyda Phaul a Barnabas; sef Jwdas a gyfenwir Barsabas, a Silas, gwŷr rhagorol ymhlith y brodyr:
23 A hwy a ysgrifenasant gyda hwynt fel hyn; Yr apostolion, a'r henuriaid, a'r brodyr, at y brodyr y rhai sydd o'r Cenhedloedd yn Antiochia, a Syria, a Cilicia, yn anfon annerch:
24 Yn gymaint â chlywed ohonom ni, i rai a aethant allan oddi wrthym ni eich trallodi chwi â geiriau, gan ddymchwelyd eich eneidiau chwi, a dywedyd fod yn rhaid enwaedu arnoch, a chadw'r ddeddf; i'r rhai ni roesem ni gyfryw orchymyn:
25 Ni a welsom yn dda, wedi i ni ymgynnull yn gytûn, anfon gwŷr etholedig atoch, gyda'n hanwylyd Barnabas a Phaul;
26 Gwŷr a roesant eu heneidiau dros enw ein Harglwydd ni Iesu Grist.
27 Ni a anfonasom gan hynny Jwdas a Silas; a hwythau ar air a fynegant i chwi yr un pethau.