37 A Barnabas a gynghorodd gymryd gyda hwynt Ioan, yr hwn a gyfenwid Marc.
38 Ond ni welai Paul yn addas gymryd hwnnw gyda hwynt, yr hwn a dynasai oddi wrthynt o Pamffylia, ac nid aethai gyda hwynt i'r gwaith.
39 A bu gymaint cynnwrf rhyngddynt, fel yr ymadawsant oddi wrth ei gilydd; ac y cymerth Barnabas Marc gydag ef, ac y mordwyodd i Cyprus:
40 Eithr Paul a ddewisodd Silas, ac a aeth ymaith, wedi ei orchymyn i ras Duw gan y brodyr.
41 Ac efe a dramwyodd trwy Syria a Cilicia, gan gadarnhau'r eglwysi.