9 Ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, gan buro eu calonnau hwy trwy ffydd.
10 Yn awr gan hynny paham yr ydych chwi yn temtio Duw, i ddodi iau ar warrau'r disgyblion, yr hon ni allai ein tadau ni na ninnau ei dwyn?
11 Eithr trwy ras yr Arglwydd Iesu Grist, yr ydym ni yn credu ein bod yn gadwedig, yr un modd â hwythau.
12 A'r holl liaws a ddistawodd, ac a wrandawodd ar Barnabas a Phaul, yn mynegi pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwyddynt hwy.
13 Ac wedi iddynt ddistewi, atebodd Iago, gan ddywedyd, Ha wŷr frodyr, gwrandewch arnaf fi.
14 Simeon a fynegodd pa wedd yr ymwelodd Duw ar y cyntaf, i gymryd o'r Cenhedloedd bobl i'w enw.
15 Ac â hyn y cytuna geiriau'r proffwydi; megis y mae yn ysgrifenedig,