1 Yna y daeth efe i Derbe ac i Lystra. Ac wele, yr oedd yno ryw ddisgybl, a'i enw Timotheus, mab i ryw wraig yr hon oedd Iddewes, ac yn credu; a'i dad oedd Roegwr:
2 Yr hwn oedd yn cael gair da gan y brodyr oedd yn Lystra, ac yn Iconium.
3 Paul a fynnai i hwn fyned allan gydag ef; ac efe a'i cymerth ac a'i henwaedodd ef, o achos yr Iddewon oedd yn y lleoedd hynny: canys hwy a wyddent bawb mai Groegwr oedd ei dad ef.
4 Ac fel yr oeddynt yn ymdaith trwy'r dinasoedd, hwy a roesant arnynt gadw'r gorchmynion a ordeiniesid gan yr apostolion a'r henuriaid y rhai oedd yn Jerwsalem.